|
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
|
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
|
||||
|
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 19 Mehefin 2012 |
|
|||
|
|
|
||||
|
Amser: |
09:20 - 11:00 |
|
|||
|
|
|
||||
|
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
|
|||||
|
|
|||||
|
|
|||||
|
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|
|||
|
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Gwyn R Price Jenny Rathbone Aled Roberts Andrew RT Davies (Cadeirydd) |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Tystion: |
|
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Paul Dimblebee, Swyddfa Archwilio Cymru Alan Morris, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Staff y Pwyllgor: |
|
Tom Jackson (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
|
||||
1. Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro
1.1 Gofynnodd y Clerc am enwebiadau i benodi Cadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22. Gwnaeth Mohammad Asghar enwebu Andrew RT Davies, ac fe’i penodwyd ar gyfer y cyfarfod hwn.
2. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2.1 Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar, yr oedd Andrew RT Davies yn dirprwyo ar ei ran, a chan Lyndsay Whittle.
3. Sesiwn friffio gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ymgysylltiad y cyhoedd â llywodraeth leol
3.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Alan Morris, Cyfarwyddwr Grŵp – Archwilio Perfformiad, roi sesiwn friffio i’r Pwyllgor ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar ymgysylltiad y cyhoedd â llywodraeth leol.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i roi enghreifftiau o’r ymarferion i ymgysylltu â’r cyhoedd sy’n cael eu rhoi ar waith gan gynghorau yng Nghymru.
3.3 Cytunodd yr Archwilydd Cyffredinol i roi enghreifftiau o arfer da a nodwyd yn ystod ei archwiliad ac i roi adborth ar ganlyniadau’r Seminar Cyd-ddysgu ar ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Eitemau 5 i 7.
5. Opsiynau ar gyfer ymdrin ag ymgysylltiad y cyhoedd â llywodraeth leol
5.1 Trafododd y Pwyllgor yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar ymgysylltiad y cyhoedd â llywodraeth leol.
6. Penderfynu ar dystion ar gyfer yr ymchwiliad i benderfyniad Llywodraeth Cymru i gaffael a chael gwared ar westy'r River Lodge gynt, Llangollen
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ba dystion yr hoffai eu gwahodd i roi tystiolaeth i’w ymchwiliad i benderfyniad Llywodraeth Cymru i gaffael a chael gwared ar westy’r River Lodge gynt, Llangollen.
7. Trafodaeth am broses anffurfiol Aelodau o gasglu gwybodaeth am fframwaith Rheoli Grantiau yr Alban
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adborth ar broses anffurfiol yr Aelodau o gasglu gwybodaeth am fframwaith rheoli grantiau yr Alban.
8. Papurau i'w nodi
8.1 Cadarnhaodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod ar 12 Gorffennaf 2012.
Trawsgrifiad